Bike Curious (TdF 2017)

Shalom!

Dwi wedi dechrau podlediad newydd efo Jack Peyton – Bike Curious.  Os ‘da chi’n ffan o beicio (fel Jack) neu well byth, ddim yn gwybod ddim byd am seiclo (fel fi), gwrandewch yma neu gwyliwch:

Mae’r podlediad newydd wedi cael ymateb eithaf da ar hyd yn hyn, gyda 1500+ o downloads.  Dwi’n gobeithio cael y Bonws Odpeth’s ar YouTube Podpeth yn fuan hefyd, felly gwyliwch y gofod!

Dwi wedi bod yn jocio ar y Podpeth ers talwm am redeg marathon.  Y nod ar hyn o bryd yw colli 20kg (3 stone, neu 44 pwys) erbyn mis Rhagfyr.  Dwi wedi penderfynu gwneud hyn heddiw, felly does dim ypdet eto.  Mi fysa podlediad newydd arall am hyn efallai yn overkill, ond wna’i drio blogio am y peth (i helpu fi gadw ffocws mwy ‘na dim).

Dwi’n gyffrous iawn ar y funud am nifer o bethau, fel cyfres newydd Game of Thrones (pennod 1 ar Sky Atlantic heno), albwm newydd QOTSA – Villains (allan Awst 25), Jodie Whittaker yn y Doctor Who newydd, a’r cyfres dwi wedi bod yn gweithio ar yn ddiweddar – Esyllt Ethni Jones yn cyflwyno: Cymru (ar gyfer Hansh/S4C).  Mae’r diweddaraf yma:

Gobeithio fyddwch yn mwynhau!  Mae’r Eisteddfod ar y gweill hefyd, ac mae llwyth o bethau da yn mynd i fod yn digwydd yno (gan gynnwys Gareth yn cwrdd ac Eden yn fyw o Gaffi Maes B).  Swnio fel laff!  O, ac mae Gareth wedi bod yn Golwg…

Eniwe, ciao for now.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *