Podpeth - Podlediad Cymraeg

Podpêl-droed (v Gwlad Belg)

Wow!  Ymateb i gêm hanesyddol arall i Gymru wrth i ni guro’r Gwlad Belg 3-1 i fynd ymlaen i’r rownd gynderfynol!  Mae Iwan a @SpursMel yn breuddwydio am Ffrainc, a mae Hywel yn rhegi’n angerddol efo Dan Owen, Mr a Mrs Jones, a dyn mewn poncho (Gaz Clarke) yn y glaw ar faes ŵyl Ymuno. Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.

Podpeth - Podlediad Cymraeg

Podpêl-droed (v Gogledd Iwerddon)

Mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi’r 1-0 yn erbyn Gogledd Iwerddon wrth i Gymru symud ymlaen i’r rowndiau gogynderfynol.  Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd yn y fanzone yn “Bale Coleman”. Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.

Podpeth - Podlediad Cymraeg

Podpêl-droed (v Rwsia)

Mae Iwan a @SpursMel yn dathlu’r 3-0 yn erbyn Rwsia wrth i Gymru orffen top y grŵp.  Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd bellach adra ym Mae Colwyn (neu, Coleman Bale), efo criw o ffrindiau sydd yn cynnwys Jack Peyton, sydd wedi bod yn brysur yn gwario ei bres i gyd ar roi gig mawr ymlaen yng Nghaernarfon (gyda’r gobaith o neud mwy)....

Podpeth - Podlediad Cymraeg

Podpêl-droed (v Lloegr)

Mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi ail gêm Cymru yn yr Ewros, yr 1-2 siomedig yn erbyn Lloegr.  Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd dal yn Bordeaux, efo Rhys Evans a Dan Owen o I Fight Lions. Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.

Podpeth - Podlediad Cymraeg

Podpêl-droed (v Slofacia)

Gydag Ewro 2016 wedi cychwyn, mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi gêm gyntaf Cymru, y 2-1 hanesyddol yn erbyn Slofacia.  Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd yn Bordeaux efo Rhys Evans o I Fight Lions. Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.