Podpeth #17 – Hand of Pod

Shw’mae! Tydi Hywel ddim yn ffan o ddynwarediad Iwan o Arnold Schwarzenegger. Hefyd, mae’r hogiau yn trio dipyn o ASMR, ac mae Iwan yn trio plygio ei bodlediad newydd, sydd yn swnio’n hollol anaddawol a rybish. Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Miriam Elin Jones, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter a Facebook (@Podpeth), cyn bron dweud “cont”! Mwy o hanes Miriam (a’r Stamp) i ddod yn fuan mewn pennod Bonws. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd, a thro yma, mae o am ffilm Nadoligaidd Cymraeg…