Podpeth #19 – PODUS

Bore dda! Hostels, caws-fyrddio, bridio pugs – ia wir, mae Podpeth wythnos yma llawn dop o gynnwys pwysig a clyfar yng nghwmni’r brodyr Iwan a Hywel. Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn sydd ar y soffa yn y parlwr efo panad i ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Hefyd, mae @SpursMel efo syniad am raglen – “Dwi’n Meiddio Chdi”. Dwi’n meiddio i chdi wrando! Bonws Ifor ap Glyn ar y ffordd Nos Fercher.