Podpeth #26 – City of Pod

Face front, true believer!

Mae Podpeth yma unwaith eto, gydag Elin Gruffydd, Hywel Pitts ac Iwan Pitts yn trafod y pethau pwysig i gyd: Be sy’n waeth, Party Like A Russian gan Robbie Williams, neu Smells Like Teen Spirit gan Take That? Be yn union sydd tu fewn i Creme Egg? Pwy ydi Yncl Vern, a pam bod ni wedi cael o ar y Podpeth? Ia, ein gwestai arbennig wythnos yma ydi ewythr yr hogia, Vern Pitts, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth).

Hefyd, mae Dad efo syniad newydd – “Llyfrbryfed”.