Podpeth #32 – “Clwb Tatws Alaw Gin”

Mae Hywel, Iwan ag Elin yn hungover yn y bennod yma, ac yn siarad am amryw o bethau dibwys a gwirion.

Mae Miss Elin yn dysgu’r hogiau am arddodiaid, mae Iwan yn cyflwyno Odpeth yr wythnos (“Haka Na’n Mental”), ac mae Hywel yn switchio off. Elidir Jones (@ElidirJ, Fideo Wyth, Plant Duw, Y Porthwll, Griff Y Ci, ayyb) sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth).

Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd – “Styffylau”.