Podpeth #48 – “Ofnadwych”

Wwww Sbwci!

Mae hi’n Galan Gaeaf, ac mae Podpeth yn ôl am byth!

Elin, Hywel ac Iwan sy’n cyflwyno Podpeth ar ei newydd wedd – hanner awr o falu awyr heb gynllun na rheswm.  Mae Podpeth bellach yn bodlediad Dosbarth Canol, ac yn trafod bod yn Ddosbarth Canol, prynu tai a phowlenni ffrwythau, ac i ddangos pa mor anhygoel ac angenrheidiol ydi iaith, mae’r gang yn trio neud Podpeth heb ddefnyddio geiriau.