UN POD OLA LEUAD #7 – Llwyd Owen

Yr awdur a podledydd Llwyd Owen ydi’r gwestai arbennig yn y bennod gynderfynol o’r gyfres Un Pod Ola Leuad, sydd yn trafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Mae Llwyd yn cyflwyno dau bodlediad ei hun, Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM, ac Ysbeidiau Heulog gyda Leigh Jones – sydd ar gael ym mhob man mae podcasts da ar gael.