Podpeth #40 – “Ffabouffe”

Wythnos yma mae Elin, Hywel ac Iwan yn sôn am sound system Dan Owen, Jim Dyson, a hunllef gwaethaf atheists, tra mae Hywel yn cael vanilla latte sy’n achosi meigryn.

Mae Elin yn dysgu’r ‘ogia am tafodiaeth, a mae Iwan yn cyflwyno Odpeth od iawn – Ti Ddim Ar Ben Dy Hun. Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd – “Cadair Cerddorion”.