Podpeth #41 – Steddfod 2017

Shwmae!

Podpeth – Steddfod Sbeshal! Wel, dim o Bodeds, ond wedi ei recordio yng Nghaernarfon wythnosau wedyn. Mae Elin yn dysgu’r hogiau am do bach, mae Iwan yn nôl gyda Odpeth (Hebog a Neidr yn Ennyn Gwŷdd), a chawn glywed cân arbennig Hywel i Tommo o’r Eisteddfod, a pherfformiad stand-up Iwan yn noson Cabarela!

Hefyd, mae Dad yn nôl gyda SyniaDad newydd – “Procar Poeth”.