Mae gan @SpursMel syniad newydd, sydd ddim yn ddi-flas a sarhaus. Mae “Heddwch Ei Lwch 2016” yn rhaglen quiz lle mae pob ateb yn berson wnaeth farw yn 2016. Ymddiheuriadau am unrhyw gwallau (e.e. problemau technegol, camsillafu, camdreiglo) – peilot yw’r fideo (sain, gfx, golygu a camerau gan Iwan), felly blas yw hon, nid prawf teg o be fydd y rhaglen orffenedig os ‘sa gan S4C (er enghraifft) ddiddordeb mewn comisiwn.
Tydi Podpeth ddim yn gysylltiedig efo S4C, felly i gwyno, ysgrifennwch eich cwyn ar darn o bapur tywod a sychwch eich tinau, cyn ei fwyta.
I gwyno am sgarff Hywel, twitiwch – @hywelpitts